SBEC Events

Casglwyr Solar Trydarthol yn Gwresogi Swyddfa Ysgol Bensaernïaeth Cymru

15 Ion 2014

Mae tîm SBED yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru wedi gosod pedwar Casglwr Solar Trydarthol bach ar do’r Ysgol er mwyn darparu awyr gynnes i swyddfa ar lefel y to.

Y Nod

Gyda’r offer hwn, byddwn yn arbrofi â nifer o ffurfweddau a pharamedrau gwahanol i’r Casglwyr Solar Trydarthol, er mwyn cael amrediad eang o ddata perfformiad.

Dimensiwn a Gogwydd Gwah

Mae’r pedwar Casglwr Solar Trydarthol, sydd ar eu traed eu hunain, trwy garedigrwydd ein partner diwydiannol Tata Steel, yn wynebu tua’r De ac mae i bob un arwynebedd o tua 1m². Fodd bynnag, maent yn wahanol o ran maint a gogwydd: mae’r tri chasglwr hirsgwar yn 1600mm x 600mm o faint gyda gogwydd o 45°. Mae’r pedwerydd casglwr solar trydarthol yn sgwâr ac yn mesur tua 1000mm x 1000mm.

darllen mwy