Tair rhinwedd hanfodol pensaernïaeth
Yn ôl Vitruvius, pensaer Rhufeinig ac un o’r ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol ar ddamcaniaethau pensaernïol, rhaid i adeilad fod â thair rhinwedd hanfodol – cryfder, defnyddioldeb a harddwch.
Meini prawf integreiddiad pensaernïol
Pan fo casglwr solar trydarthol yn rhan o amlen adeilad, os yw’n cael ei integreiddio’n gydnaws â chryfder, defnyddioldeb a harddwch, gellid ystyried wedyn ei fod wedi’i integreiddio’n bensaernïol. Heb gynnal harddwch neu ansawdd esthetig yr adeilad, fodd bynnag, ni ellid ei ddisgrifio ond fel “system wedi’i hintegreiddio mewn adeilad”.
Agweddau ar estheteg
Mae modd dadansoddi estheteg, neu’r math o olwg sydd ar Gasglwr Solar Trydarthol trwy gyfrwng y canlynol:
- Gwelediad
- Cydweddiad
- Maint a lleoliad y casglwr
- Maint a siâp y modiwl
- Defnydd ei wneuthuriad
- Lliw
- Garwedd neu lyfnder yr wyneb